Hanes y Côr

Ddiwedd y 1960au, gyda dynion ifanc y Clwb Ieuenctid lleol yn cyrraedd oedran ymadael â’r Clwb, teimlodd cnewyllyn ohonynt yr awydd cryf i barhau â’r profiadau corawl a gawsant yn y corau hynod lwyddiannus o fewn y Clwb.

Troesant at arweinydd carismataidd y gweithgareddau corawl hynny, sef yr athro ifanc Noel Davies am gyngor. A dyna ddechrau stori sydd yn parhau hyd heddiw, gyda phenderfyniad i sefydlu côr meibion newydd – datblygiad dewr mewn ardal oedd eisoes yn frith o gorau meibion tra enwog.

Gyda Noel Davies wrth y llyw, tyfodd yr aelodaeth yn rhyfeddol o gyflym, a daeth llwyddiannau trawiadol ar lwyfannau cyngerdd ac eisteddfod. Erbyn 1963, gyda’r aelodaeth wedi chwyddo i 120 o gantorion, daeth Côr Meibion Pontarddulais i’r brig ym mhrif gystadleuaeth y corau meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno. Cychwyn oedd hwnnw ar record ddihafal o fuddugoliaethau yn ein Prifwyl – 17 hyd yma, a’r diweddaraf ohonynt yng Nghaerdydd yn 2018. Yn ogystal â hyn, enillodd y côr wobrau cyntaf dirifedi yng ngwyliau mawr Aberteifi a Phontrhydfendigaid ac Eisteddfod y Glowyr ym Mhorthcawl. Daeth llwyddiant hefyd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 2001 ac eto yn 2004.

Dros hanner canrif a mwy, bu’r Côr yn perfformio mewn cyngherddau ledled Prydain a thu hwnt ar draws Ewrop, Canada a’r Unol Daleithiau, a hynny’n aml mewn neuaddau ac eglwysi nodedig; darlledwyd yn gyson ar radio a theledu, adref a thramor; perfformiwyd mewn digwyddiadau rhyngwladol o fri; ac ar hyd y blynyddoedd rhoddodd y Côr eu perfformiadau ar gof a chadw trwy gyfrwng llu o recordiau, tapiau a disgiau.

Wrth i’w gyfnod hir a rhyfeddol fel arweinydd ddirwyn i ben yn 2002 ar ôl 42 o flynyddoedd o wasanaeth diflino, gallai Noel Davies edrych nôl ar gyfraniad anhygoel i fywyd cerddorol y genedl. Ond i’r Côr, nid diwedd y stori oedd ei ymddeoliad. Wedi cyfnod fel cyfeilydd y Côr, daeth Clive Phillips yn olynydd teilwng fel Cyfarwyddwr Cerdd, gan barhau â’r egwyddorion a sefydlwyd gan ei ragflaenydd wrth bwysleisio o’r newydd bwysigrwydd amrywiaeth yn y repertoire o’r ysgafn ei natur i gerddoriaeth gyfoes glasurol; darnau Cymraeg eu hiaith yn ogystal ag ieithoedd eraill; ac ymrwymiad digamsyniol i’r egwyddor o gystadlu.

Mae’n dyst i’r ymdeimlad o frawdoliaeth agos o fewn y Côr bod rhai o aelodau’r Clwb Ieuenctid gwreiddiol yn dal i ganu gyda’r Côr Meibion, a bod nifer o’r cantorion presennol wedi rhoi hanner cant o flynyddoedd a mwy o wasanaeth i’r Côr. Yn ogystal â chynnal safonau ar hyd y blynyddoedd llwyddodd y Bont i gynnal niferoedd ei aelodau hefyd, sydd hyd heddiw dros y cant o leisiau.

Yn y blynyddoedd cynnar, adlewyrchu’r diwydiannau glo, dur a thunplat lleol a wna galwedigaethau nifer fawr o’r aelodau, gyda’r rhelyw mewn amrywiaeth o swyddi megis addysg, y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol ac ati. Erbyn heddiw, yn naturiol ddigon, mae mwyafrif yr aelodau’n mwynhau ymddeoliad, ond bod canu a pherfformio’n greiddiol i’r ymddeoliad hwnnw wrth gwrs.

Yn ei lyfr, Great Welsh Voices, ysgrifenna Alun Guy:

"Y CONSENSWS CYFFREDINOL YMHLITH BEIRNIAID AC ADOLYGWYR FEL EI GILYDD YW BOD Y CYFUNIAD O LEISIAU O DROS GANT O AELODAU YN CYNHYRCHU I’R CÔR HWN Y SAIN GORAWL AMATUR GORAU NID YN UNIG YNG NGHYMRU OND YM MHRYDAIN A THU HWNT."

Mae’r Côr yn dal i groesawu aelodau newydd o bob oedran, ac os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno, cam cyntaf fyddai dod i un o’r ymarferion a gynhelir ddwy waith yr wythnos yn yr Ysgol Gynradd, James Street, Pontarddulais, ar nosweithiau Llun a Mercher rhwng 7 a 9 o’r gloch (ag eithrio mis Awst neu ar Wyliau Banc). Yno cewch flas ar y canu a sut mae’r cantorion yn dysgu eu gwaith. Fe brofwch hefyd y cyfeillgarwch a’r hiwmor iach o fewn y Côr. Does dim angen adnoddau lleisiol arbennig na phrofiad o ganu chwaith, nac yn wir y gallu i ddarllen cerddoriaeth. Y prif hanfodion yw’r gallu i ganu mewn tiwn a’r parodrwydd i ymroi i ddysgu. Trwy ymuno â’r Côr, fe fydd eich llais canu ynghyd a’ch sgiliau darllen, boed y sol-ffa neu’r hen nodiant, yn datblygu a blodeuo.

Wrth gwrs, yn ogystal â darpar aelodau, mae croeso bob amser i aelodau’r cyhoedd yn ein hymarferion. Mae’n werth cadarnhau gyda’r Ysgrifennydd eich bwriad i ymweld rhag ofn bod newid dros dro yn y lleoliad. Hyderwn y cewch fwynhad yn pori trwy’n gwefan, ac efallai cawn eich croesawu i un o’n cyngherddau yn y dyfodol.

 

Noel Davies
Noel Davies MBE
Cyfarwyddwr Cerdd 1960-2002